Why This Role Stands Out
This hybrid role offers a fantastic opportunity to contribute to educational empowerment with a competitive salary of £40,000, where you'll develop valuable skills in program management and stakeholder engagement. You'll thrive here if you are passionate about education and have a talent for building relationships, making a real impact on aspiring learners. Apply now to join a dedicated team and shape the future of education!
Quick Overview
Job Description

Rheolwr Seren – Academi Seren
📍 Lleoliad: De Cymru
💷 Cyflog: £40,000 y flwyddyn
🕒 Cytundeb: Llawn-amser, 37.5 awr yr wythnos
📅 Dyddiad dechrau: Cyn gynted â phosibl
📄 Tymor: Cyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2027, gyda’r posibilrwydd o estyniad o 3 mlynedd
🗓️ Dyddiad Cau: 5pm Dydd Mercher 21ain Hydref
Trosolwg
Ydych chi’n angerddol am addysg a grymuso dysgwyr? Mae Academi Seren Llywodraeth Cymru yn chwilio am Reolwr Seren newydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno gyda thîm sy’n darparu cynnig Seren ledled Cymru i’n dysgwyr disgleiriaf.
Mwy am Academi Seren
Gweledigaeth Academi Seren yw i ddysgwyr, waeth beth fo’u cefndir economaidd-gymdeithasol, gael yr uchelgais, y gallu a’r chwilfrydedd i gyflawni eu potensial a rhagori yn nodau addysgol y dyfodol ar y lefel uchaf.
Y genhadaeth yw i gefnogi dysgwyr Seren wrth iddynt geisio rhagori drwy dri amcan strategol:
- Tanio chwilfrydedd a chymhelliant dysgwyr ar gyfer eu dysgu.
- Grymuso dysgwyr i wneud dewisiadau uchelgeisiol, gwybodus am eu llwybr addysgol yn y dyfodol.
- Datblygu gallu dysgwyr i gyrraedd eu potensial a llwyddo mewn prifysgolion blaenllaw iawn.
Mae Academi Seren yn darparu rhaglen o gefnogaeth arbenigol a anelir at anghenion ein dysgwyr disgleiriaf ac yn darparu rhaglen hybrid o weithgareddau gorgyrsiol i ymestyn a herio dysgwyr, sy’n datblygu o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 13.
Swyddogaeth a Chyfrifoldebau
Pwrpas y swydd hon yw i:
- Ymgysylltu gyda a magu perthnasau gyda’ch ysgolion a cholegau AB dynodedig a’u cefnogi i ddethol y dysgwyr priodol ar gyfer Academi Seren
- Fod yn wyneb i Seren ar gyfer eich canolfannau dynodedig, gan ateb cwestiynau, darparu cyfleoedd yn yr ardal leol i ddysgwyr gael ymgysylltu gyda’i gilydd, codi uchelgeisiau a hunaneffeithiolrwydd dysgwyr i anelu’n uchel.
- Sicrhau bod y dysgwyr a’r canolfannau yn ymwybodol o’r holl gyfleoedd, gweithgareddau a’r profiadau sydd ar gael iddynt fel rhan o’r Academi.
- Fanteisio ar yr adnoddau sydd ar gael i ysbrydoli dysgwyr a’u dyheadau am eu dyfodol.
- Ddathlu llwyddiannau dysgwyr a’u canolfannau.
Y cyfrifoldebau yw i:
- Sicrhau bod yr holl ddysgwyr Seren a nodir wedi cofrestru gyda’r Academi.
- Gadw at reoliadau diogelu ar gyfer y grwpiau oedran gwahanol.
- Weithio ar draws tîm Seren i ddarparu cynnig Cymru gyfan gydgysylltiedig i ddysgwyr.
- Ymgysylltu gyda dysgwyr i’w hysbysu o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt, sut a phryd i wneud y penderfyniadau cywir ac agor drysau iddynt ymgysylltu gyda’r bobl, sefydliadau ac adnoddau cywir i gefnogi eu llwybrau.
- Annog dysgwyr i ymgysylltu gydag adeiladu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y cyrchfan o’u dewis.
- Adnabod anghenion y dysgwyr o fewn eich canolfannau dynodedig a gweithio gyda’r tîm i gydweithio ar gyfleoedd.
- Ddod ag athrawon eich canolfannau dynodedig at ei gilydd i gydweithio ar gyfleoedd.
- Ymgysylltu gyda a hysbysu rhieni/gofalwyr Seren am sut allant gefnogi eu plentyn y ffordd orau.
- Bod yn rhagweithiol o fewn y tîm i gefnogi eraill a rhannu gwybodaeth arbenigol ac arferion da.
- Nodi enghreifftiau o ddarpariaeth dda ac astudiaethau achos i ddathlu llwyddiannau.
- Casglu ac adrodd ar ddata a gwariant i gefnogi gwerthuso a gwelliant parhaus y rhaglen.
- Mynychu isafswm o ddau gwrs preswyl (a gyfeirir atynt weithiau fel ‘Ysgolion Haf Seren’) bob blwyddyn, er mwyn cefnogi darpariaeth llwyddiannus y cyrsiau preswyl gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) gyfrifoldebau dros ddiogelu, cefnogaeth bugeiliol i ddysgwyr a darpariaeth y rhaglen.
- I weithredu unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae eich rheolwr llinell yn gofyn amdanynt er mwyn cyflawni anghenion y swydd a thîm ehangach Seren.
Am Beth Rydym yn Chwilio
Rydym yn chwilio am unigolion sydd gan:
- Brofiad mewn addysg, gwaith ieuenctid neu allgymorth (mae profiad o weithio gydag ysgolion/colegau yn hanfodol).
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i ymgysylltu gyda ac ysbrydoli pobl ifanc, athrawon a rhanddeiliaid ehangach.
- Llwyddiant blaenorol yn trefnu a darparu gweithgareddau cyfoethogi, gweithdai neu ddigwyddiadau.
- Sgiliau cynllunio, trefnu a rheoli amser cryf - gyda’r gallu i weithio’n annibynnol ar draws nifer o leoliadau.
- Angerdd gwirioneddol dros gydraddoldeb mewn addysg, symudedd cymdeithasol a chefnogaeth i ddysgwyr.
- Dealltwriaeth o’r tirwedd addysg yng Nghymru ac ymrwymiad i gefnogi dysgwyr yng Nghymru.
- Trwydded yrru lawn a’r parodrwydd i deithio yn eang ar draws y rhanbarth a ddynodir.
- Parodrwydd i weithio’n hyblyg, gan y bydd y swydd yn golygu peth gwaith yn ystod y penwythnos a gyda’r nos, yn ogystal ag amser yn gweithio i ffwrdd i gefnogi cyflawniad cyrsiau preswyl mewn prifysgolion yn y DU.
Dymunol (ond nid yn angenrheidiol)
- Statws Athro Cymwysiedig (SAC)
- Profiad o weithio ar raglenni mynediad i AU neu ehangu cyfranogiad.
- Siaradwr Cymraeg (ceir cefnogaeth gydag ysgrifennu a chyfieithu ar y pryd)
- Cyflog blynyddol o £40,000
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc ar ben hynny
- Gweithio hybrid
- Polisi TOIL am waith gyda’r nos a dros y penwythnos
Similar jobs
- VA
Technical Director AI
NewAuto ApplyValtech
Manchester🇬🇧Hybrid11 hours agoAWSAccount ManagementAgile+4 - VA
Technical Director AI
NewAuto ApplyValtech
London🇬🇧Hybrid11 hours agoAWSAccount ManagementAgile+4 - TN
Video Journalist, Reporter Video
NewAuto ApplyThe New York Times
London🇬🇧Hybrid3 hours agoFigmaAfter EffectsEEOC+3 - TB
2027 Research Analyst - International Arbitration - London
NewAuto ApplyThe Brattle Group
London🇬🇧Hybrid5 hours agoArbitrationLitigation - TB
2026/27 Research Analyst - International Arbitration - London
NewAuto ApplyThe Brattle Group
London🇬🇧Hybrid5 hours agoArbitrationLitigation - TE
Editorial AI Transformation Lead
NewAuto ApplyThe Economist Group
London - Commercial🇬🇧Hybrid6 hours agoBusiness AnalysisEnterprise Sales - TE
Head of Pre-Subscriber Growth and Conversion
NewAuto ApplyThe Economist Group
London - Commercial🇬🇧Hybrid6 hours agoSalesforceCRM - TE
CTV Business Lead, UK
NewAuto ApplyTeads
London🇬🇧Hybrid10 hours agoSalesforceBrandingBusiness Development+6 - SA
Frontier Agent Engineering Manager, Enterprise
NewAuto ApplyScale AI
London🇬🇧Hybrid7 hours agoDockerGCPAWS+13 - SA
GTM Business Operations Associate
NewAuto ApplyScale AI
London🇬🇧Hybrid10 hours agoSalesforceCRMRevenue Operations+2 - SA
Implementation Consultant
NewAuto ApplySamsara
Remote - UK🇬🇧Remote10 hours agoCustomer SuccessGreenhouseIoT+2 - PM
Director, Medicinal Chemistry Synthesis
NewAuto ApplyParabilis Medicines
Cambridge🇬🇧Hybrid4 hours ago